Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                         Mewnosododd rheoliad 4(b) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 is-baragraff (k) yn rheoliad 2(1) (gwasanaethau cartrefi gofal) o’r Prif Reoliadau[1]i ddarparu eithriad, o dan amgylchiadau penodol, i’r gofyniad i gofrestru fel gwasanaeth cartref gofal mewn ymateb i ledaeniad y coronafeirws.

Mae is-baragraff (k) wedi ei ddirymu wedi hynny gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022.

Rhoddwyd ystyriaeth, wrth ddrafftio’r ddarpariaeth y creffir arni yma, i baragraff 7.24 o Drafftio Deddfau i Gymru. Mae paragraff 7.24 yn ymdrin ag ailddefnyddio rhifo sydd wedi ei ddirymu’n flaenorol. Ar ôl ystyried cynnwys paragraff 7.24 – ac o ystyried bod pwnc is-baragraff arfaethedig (l) yn y Rheoliadau drafft yn darparu ar gyfer eithriad i’r gofyniad i gofrestru fel gwasanaeth cartref gofal am resymau nad ydynt yn ymwneud o gwbl â’r coronafeirws – ystyrir ei bod yn briodol arddel is-baragraff newydd ar ffurf (l) a bod hynny’n glynu wrth y canllawiau ym mharagraff 7.24 o Drafftio Deddfau i Gymru.

Am y rhesymau hyn, nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid label is-baragraff (l) yn y Rheoliadau drafft.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:                                          Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am dynnu sylw at y pwynt adrodd hwn, a bydd yn cymryd camau i gywiro’r gwall hwn, nad yw’n un o sylwedd, cyn i’r offeryn gael ei wneud.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:                                          Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am godi’r pwynt hwn.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y cynigion sy’n sail i’r Rheoliadau rhwng 15 Mai a 6 Awst 2023. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ym mis Hydref 2023.

Cymerwyd camau i sicrhau bod copi o’r datganiad sy’n ofynnol yn unol â gofynion adran 27(5) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei osod gerbron y Senedd cyn i’r Rheoliadau drafft gael eu gwneud.

 

Efallai y bydd y Pwyllgor hefyd yn dymuno nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru’r Memorandwm Esboniadol i sicrhau cysondeb o ran y cyfeirio rhwng y Rheoliadau a’r Memorandwm Esboniadol.

 

Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn gwneud y Rheoliadau.

CYWIRIADAU I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

CYWIRIADAU I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

 

 

Bydd y testun “Gosodwyd gerbron Senedd Cymru     *** ” yn y Testun Cymeradwyo ar ddechrau’r Rheoliadau yn cael ei ddileu.

 

 

Bydd y testun “Laid before Senedd Cymru *** ” yn y Testun Cymeradwyo ar ddechrau’r Rheoliadau yn cael ei ddileu.

 

 

 



[1] Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017